Ezra 2

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl

(Nehemeia 7:4-73)

1Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. 2Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana.

Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:

3Teulu Parosh: 2,172
4Teulu Sheffateia: 372
5Teulu Arach: 775
6Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812
7Teulu Elam: 1,254
8Teulu Sattw: 945
9Teulu Saccai: 760
10Teulu Bani: 642
11Teulu Bebai: 623
12Teulu Asgad: 1,222
13Teulu Adonicam: 666
14Teulu Bigfai: 2,056
15Teulu Adin: 454
16Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
17Teulu Betsai: 323
18Teulu Iora: 112
19Teulu Chashŵm: 223
20Teulu Gibbar: 95
21Dynion Bethlehem: 123
22Dynion Netoffa: 56
23Dynion Anathoth: 128
24Dynion Asmafeth: 42
25Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743
26Dynion Rama a Geba: 621
27Dynion Michmas: 122
28Dynion Bethel ac Ai: 223
29Pobl Nebo: 52
30Pobl Magbish: 156
31Pobl yr Elam arall: 1,254
32Pobl Charîm: 320
33Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725
34Pobl Jericho: 345
35Pobl Sena'a: 3,630

36Yr offeiriaid:

Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
37Teulu Immer: 1,052
38Teulu Pashchwr: 1,247
39Teulu Charîm: 1,017

40Y Lefiaid:

Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafia): 74

41Y cantorion:

Teulu Asaff: 128

42Gofalwyr y giatiau:

Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139

43Gweision y deml:

Teulu Sicha
Teulu Chaswffa
Teulu Tabbaoth
44Teulu Ceros
Teulu Sïaha
Teulu Padon
45Teulu Lebana
Teulu Hagaba
Teulu Accwf
46Teulu Hagab
Teulu Shalmai
Teulu Chanan
47Teulu Gidel
Teulu Gachar
Teulu Reaia
48Teulu Resin
Teulu Necoda
Teulu Gassam
49Teulu Wssa
Teulu Paseach
Teulu Besai
50Teulu Asna
Teulu Mewnim
Teulu Neffwsîm
51Teulu Bacbwc
Teulu Chacwffa
Teulu Charchwr
52Teulu Batslwth
Teulu Mechida
Teulu Charsha
53Teulu Barcos
Teulu Sisera
Teulu Temach
54Teulu Netsïach
Teulu Chatiffa.

55Teuluoedd gweision Solomon:

Teulu Sotai
Teulu Hassoffereth
Teulu Perwda
56Teulu Jala
Teulu Darcon
Teulu Gidel
57Teulu Sheffateia
Teulu Chattil
Teulu Pochereth-hatsbaîm
Teulu Ami

58Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

59Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

60Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

61Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

62Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 63Dwedodd y llywodraethwr
2:63 llywodraethwr Mae'r un teitl Persiaidd yn cael ei ddefnyddio am Nehemeia yn Nehemeia 8:9; 10:1
nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim b.

64Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 65(heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).

66Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 67435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

68Pan gyrhaeddon nhw deml yr Arglwydd yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. 69Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur
2:69 500 cilogram o aur.Hebraeg, “61,000 drachma aur”
, 2,800 cilogram arian
2:69 2,800 cilogram o arian. Hebraeg, “mina arian”
, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.

70Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.

Copyright information for CYM